Datganiad hygyrchedd i'r gwasanaeth mewngofnodi ac adnabod DWP
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wasanaeth mewngofnodi ac adnabod yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Mae'r gwasanaeth hwn yn caniatáu i ddinasyddion gyrchu gwasanaethau ar-lein DWP eraill ar gyfer Cadarnhau a Dilysu Hunaniaeth drwy HMRC (IV).
Defnyddio'r gwasanaeth hwn
Mae’r wefan hon yn cael ei redeg gan DWP. Rydym eisiau cyn gymaint o bobl â phosibl i allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
- llywio'r wefan gyfan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio’r wefan gyfan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y wefan gyfan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (yn cynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud cynnwys y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Ar ôl profi, gwelsom fod pob tudalen o fewn y gwasanaeth yn hygyrch.
Adborth a manylion cyswllt
Os ydych angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn ffurf gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:
- e-bostiwch IDT.Accessibility@dwp.gov.uk gyda'r ffurf rydych ei angen. Dylech gynnwys eich manylion cyswllt a'ch hoff ddull cyswllt.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n credu nad ydym yn cwrdd â gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: IDT.Accessibility@dwp.gov.uk.
Y drefn gorfodaeth
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi’r ’Public Sector Bodies (Websites and Mobile Applications) (No. 2) Accessibility Regulations 2018’ (y ’rheolaethau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogaeth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae’r DWP wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â ’Public Sector Bodies (Websites and Mobile Applications) (No. 2) Accessibility Regulations 2018’.
Statws cydymffuriaeth
Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n llawn â fersiwn 2.2 Safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd.
Nid oes gennym unrhyw gynnwys ar ein gwasanaeth nad yw o fewn cwmpas
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 12fed Rhagfyr 2024 ac fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 24ain Gorffennaf 2025.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Hydref 2024 ac ailbrofwyd unrhyw elfennau nad oedd yn cydymffurfio ym mis Gorffennaf 2025.
Gwnaethom brofi'r holl dudalennau yn ein taith gwirio hunaniaeth ar-lein yn erbyn meini prawf WCAG 2.1 AA.